Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 2 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Nick Ramsay (Cadeirydd) Byron Davies Keith Davies Julie James Alun Ffred Jones Eluned Parrott David Rees Ken Skates Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jeff Cuthbert, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau Suzanne Chisholm, Pennaeth Cynorthwyo Pobl Ifanc Teresa Holdsworth, Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas; nid oedd neb yn dirprwyo.
2. Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau - Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
2.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru a Suzanne Chisholm, Pennaeth Cynorthwyo Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru. Bu’r Aelodau yn holi’r Dirprwy Weinidog ynghylch y cynnydd a wnaed ers i’r Pwyllgor Menter a Busnes gyhoeddi ei adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ym mis Hydref 2010.
Cytunodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau i roi gwybodaeth a ffigurau manylach i’r Pwyllgor ynghylch faint o gynlluniau sy’n bodoli i fynd i’r afael â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Cynigodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat.
4. Dylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael yr Undeb Ewropeaidd - Trafod yr adroddiad drafft
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai gwelliannau.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.